Cyfarwyddiadau

Fel y mae’r enw yn ei awgrymu, pentref wrth droed Twyn y Garth yw Gwaelod-y-garth, ychydig i’r gogledd i Gaerdydd, ar yr ochr orllewinol i afon Taf a’r A470.

 

 

I gyrraedd Bethlehem, ac os oes gennych dywysydd lloerennol, gosodwch y teclyn i’ch arwain i CF15 9HH.

Fel arall:

trowch oddi ar yr A470 i gyfeiriad Radur a Phen-tyrch
trowch i’r dde ar y cylchfan, i gyfeiriad Pen-tyrch
ewch heibio i ystad ddiwydiannol fach ar y dde
ewch heibio i Heol y Garth a Heol Berry ar y dde
trowch i’r dde ar waelod y tyle
maes o law fe welwch yr ysgol ar yr ochr dde a Bethlehem nes ymlaen ar yr ochr chwith
Mae’r map yma yn dangos lleoliad Gwaelod-y-garth. (Ar ôl i’r map ymddangos ar eich sgrin, cliciwch y "+" ar y chwith i fwyhau’r map a gweld enw Gwaelod-y-garth.)