Croeso i Fethlehem
Ateb y Galw
Neges gan GANOLFAN Y DRINDOD Caerdydd
Mae cefnogwyr Canolfan y Drindod (gan gynnwys aelodau Bethlehem) wedi bod yn hael iawn ac ar hyn o bryd mae’r storws bron yn llawn a’r cyfeillion anhengus wedi ei dilledu yn dda! Yr unig beth maen’t yn brin ohono ydy’ esgidiau dynion (yn cynnwys trainers, sandalau, slipars). Fyddai’n bosib felly danfon neges i’n haelodau i ofyn fyddant cystal ag 'ATEB Y GALW’ a chyfrannu unrhyw esgidiau dynion drwy ddod a nhw i’r capel fore Sul yma? Fe awn ni a nhw o fanno.